MAE arbenigwyr natur blaenllaw yn cynghori grŵp cydweithredol cymunedol arweinir gan ffermwyr i archwilio iechyd yr Afon Ddyfi. Defnyddir dadansoddiad DNA Amgylcheddol (E-DNA) gan wyddonwyr y ‘Natural History Museum’ yn Llundain i archwilio samplau tymhorol o ddeg safle ar draws Dalgylch y Ddyfi fel rhan o brosiectiau Adfer Dyfi sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
“Mae gennym eisoes lawer o ddata wedi’i gywain dros flynyddoedd o arsylwadau gan bysgotwyr a thirfeddiannwyr,” meddai Rhys Parry, Cadeirydd prif gorff Partneriaeth Pennal. “Mae’r dadansoddiad newydd yma, ynghyd â chanlyniadau ein profion Gwyddoniaeth y Dinesydd, yn gymorth inni ddeall yr afon yn well.”
Ychwanega John Parker, Ysgrifennydd Cymdeithas y ‘New Dovey Fishery’ (1929) a biocemegwr: “Bydd y cydweithrediad ag Adfer Dyfi yn defnyddio’r wybodaeth fel llinell sylfaen i’r strategaeth adferu. Bydd y gallu i ganfod ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys y rhai a fethir gan arolygon traddodiadol, hefyd yn arf sylfaenol defnyddiol ar gyfer adeiladu gwytnwch yn wyneb effeithiau newid hinsawdd.
LLUN: Y labordai gwyddonol (yn yr adeilad ar y dde) yn y ‘Natural History Museum’ yn Llundain lle bydd y profion E-DNA yn cael eu dadansoddi.

