Economi
Economi Afonydd Dyfi
Mae’n hafonydd a nentydd yn cyflenwi’r dŵr i holl fywyd y Dalgylch ynghyd â’n prif ddiwydiant – ffermio sy’n rhoi bwyd ar ein platiau ac y sydd dros y canrifoedd wedi cyfrannu at llunio ein tirwedd drawiadol.
Mae tirfeddianwyr yn fwyfwy ymwybodol o’r rôl anhepgor maent yn ei gyflawni’n cadw ein dŵr yn lân, helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi’r economi drwy gyfrannu at weithgareddau amrywiol megis darparu canolfanau hamdden, llety ac adnewyddiadau.
Mae’r ffermwyr hefyd yn helpu gyda Llwybr Arfordir Cymru sy’n ymlwybro o gwmpas ceg y Ddyfi ac sydd yn denu, ar hyd ei thaith o 870 milltir, dros 2.8m o ymweliadau bob blwyddyn.
Mae’r Ddyfi yn enwog ymysg pysgotwyr Prydain am ei siwyn, eog a brithyll. Mae trwyddedau dydd a nos i’w cael gan y ‘New Dovey Fisheries Association (1929) Ltd’, Y Plas, Machynlleth, Powys. SY20 8ER. 01654 702721. Ni chaniateir cychod na chanŵs ar y Ddyfi er mwyn gwarchod ei bywyd gwyllt ac, yn yr un modd, mae mynediad i’r cyhoedd yn gyfyngiedig i lwybrau penodedig yn unig.
Bioamrywiaeth
Mae ein haelodau a’n sefydliadau cefnogol yn monitro’r afon yn aml. Mae’r glannau sy’n gyforiog o goed Gwern a Derw Cymreig yn cynnal bywyd gwyllt ond hefyd yn darparu lloches i rywiogaethau yn yr afon ei hun gyda ffynonellau o fwyd a chysgod.
Rhywiogaethau
Mae nifer o ardaloedd dynodedig o bwysigrwydd byd-eang ar draws ein tirwedd gan gynwys Ardal o Warchodaeth Arbennig, Biosffȇr UNESCO, Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur dan reolaeth RSPB.
Hinsawdd
Mae newid hinsawdd yn effeithio, nid yn unig ein bywyd gwyllt, ond ein cymunedau hefyd. Mae tymheredd cynyddol yn golygu y gall dyfroedd gynhesu i’r pwynt bod lefelau ocsigen yn gostwng neu bod algau’n ffurfio nes bygwth goroesiad tymor hir rhywiogaethau.
Bydd yn ffrind
Pam na wnewch chi ymuno â ni ar ein taith? Mae’n hawdd bod yn Ffrind Dyfi drwy rodd i’n Cronfa i alluogi datblygu prosiectau allweddol i gynnal ein rhwydwaith afon anhygoel. Byddai rhodd rheolaidd neu un-tro yn helpu inni wireddu gweithredoedd arwyddocaol i amddiffyn ein hased unigryw. Gallw ychwanegu’ch enw i’n rhestr cyfrannwyr neu aros yn ddi-enw.
