Heriau

Yr Heriau

Mae’r rhan fwyaf o ddŵr y byd yn ddŵr hallt gyda llai na 1% o ddŵr croyw. Disgyna’r dŵr hwn ar ein tiroedd, llifa yn ein afonydd, llenwa ein llynnoedd a gwlypdiroedd, and yn bodoli o dan ein traed yn y pridd a holltau’r graig. Mae’r dŵr hwn yn cynnal bywyd o bob math. Fel bodau dynol, rydym yn dibynnu arno i’w yfed, i gynhyrchu bwyd ac egni, ac fel tramwyfa i drafnidiaeth a masnach.

Er ei brinder a’n dibynniaeth arno, rydym yn ffaelu yn ein parch at ddŵr, fel y dengys stâd argyfyngus afonydd Prydain. Am ddegawdau, maent wedi’u cam-drin gan lygredd ac anwybodaeth.

Mae Dyfi yn lwcus trwy bod ganddi grwp o dirfeddiannwyr a chymdeithasau fel y ‘New Dovey Fishery’ i warchod ei 30 milltir o brif afon a 300 milltir o’i lled-nentydd. Rydym am gynnal yr afon yn ei chyflwr ecolegol “dda”, gan anelu am “ardderchog”.

Colli Cynefin

Mae gennym nifer helaeth o lecynnau a gofodau gwyllt ar hyd basn Dyfi. Mae’r gorlifdir a sianelau’r afon yn gartref i lawer o’r rhain; yn cynnal cynefinoedd a rhywiogaethau prin o ddolydd blodau gwyllt, i fforestydd glaw Celtaidd hynafol. Mae’r rhuban (ardal glannau afon) o gynefinoedd sy’n gysylltiedig ag afonydd yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelu rhain drwy gadw dŵr yn glaear, gan weithredu fel byffer i lygrwyr a chymorth i atal erydiad pridd.

Mae gennym yng Nghymru reoliadau amgylcheddol ond erys colli cynefin yn gyffredin. Mae dirywiad mewn arferion rheoleiddio, arferion amaethyddol gwael gan ychydig o ffermwyr ynghyd â thai, diwydiant ac isadeiledd oll yn cyfrannu at golled ein cynefinoedd afon a gorlifdir gwerthfawr.

Llygredd

Gall llygredd carthion, cemegol, plastig a maetholion oll niwedio ein hafonydd, gan wenwyno ein dŵr glân ac effeithio bywyd gwyllt. Mae llygredd maetholion, boed o garthion neu amaethyddiaeth, yn gallu achosi gwawr algaidd sy’n lleihau lefelau ocsigen yn yr afon ac yn peri niwed i fywyd gwyllt yr afon. Gall rhain ddifetha ansawdd dŵr afonydd basn yr Hafren. Drwy gydweithio â’n ffermwyr (mae nifer o’n haelodau tanysgrifol yn dirfeddiannwyr ar y Ddyfi) byddwn yn ceisio lleihau rhain ac annog amgylchedd glanach ac iachach.

Gall erydiad tir, achosir yn bennaf gan ddigwyddiadau newid hinsawdd, fel y glawiad dwys y gwelwn, effeithio’n negyddol ar yr afon a’r bywyd sydd ynddi.

Mewn ardaloedd preswyl yn cynnwys pentrefi bychain, trefi a dinasoedd, mae arllwysiadau o lifiadau carthion amrwd rheolaidd i’r dalgylch o’n system garthion darfodedig. Mae hyn dan straen gynyddol oherwydd y codiad yn y galw a’r digwyddiadau tywydd sy’n gwaethygu. Rydym yn gweithio gyda Dŵr Cymru i wella’r system.

Rhwystrau Afon

Rhwystr Afon yw unrhyw nodwedd yn yr afon sydd rhwystro rhwydd hynt i bysgod a bywyd gwyllt yn yr afon. Yma, yn y Dyfi, mae adeiladwaith megis cylfatiau (pibellau) neu glannau afon syrthiedig neu goedydd yn gallu bod y prif rwystrau ac yn peri atalfa sylweddol i’n rhywiogaethau pysgod.

Mae rhywiogaethau pysgod megis yr Eog yr Iwerydd enigmatig a Brithyll y Môr, adnabyddir yn lleol fel y Sewin, yn gwneud mudiadau epig i gyrraedd cynefinoedd dŵr claear, dim ond i ddarganfod eu bod wedi’u rhwystro’n llwyr. Gall hyn beri i’r pysgod flino’n lân, gael eu niweidio neu’u lladd gan na allent oroesi’r rhwystrau hyn. Dengys bod rhywstrau afon yn ffactor amlwg yn y dirywiad cynyddol mewn poblogaethau pysgod gan gynnwys y llysywen Ewropeaidd, gwangen a lamprai.

Bioamrywiaeth

Mae ein haelodau a’n sefydliadau cefnogol yn monitro’r afon yn aml. Mae’r glannau sy’n gyforiog o goed Gwern a Derw Cymreig yn cynnal bywyd gwyllt ond hefyd yn darparu lloches i rywiogaethau yn yr afon ei hun gyda ffynonellau o fwyd a chysgod.

Rhywiogaethau

Mae nifer o ardaloedd dynodedig o bwysigrwydd byd-eang ar draws ein tirwedd gan gynwys Ardal o Warchodaeth Arbennig, Biosffȇr UNESCO, Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur dan reolaeth RSPB.

Hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn effeithio, nid yn unig ein bywyd gwyllt, ond ein cymunedau hefyd. Mae tymheredd cynyddol yn golygu y gall dyfroedd gynhesu i’r pwynt bod lefelau ocsigen yn gostwng neu bod algau’n ffurfio nes bygwth goroesiad tymor hir rhywiogaethau.

Bydd yn ffrind

Bydd yn ffrind
Pam na wnewch chi ymuno â ni ar ein taith? Mae’n hawdd bod yn Ffrind Dyfi drwy rodd i’n Cronfa i alluogi datblygu prosiectau allweddol i gynnal ein rhwydwaith afon anhygoel. Byddai rhodd rheolaidd neu un-tro yn helpu inni wireddu gweithredoedd arwyddocaol i amddiffyn ein hased unigryw. Gallw ychwanegu’ch enw i’n rhestr cyfrannwyr neu aros yn ddi-enw.