Hinsawdd

Hinsawdd Dyfi

Mae newid hinsawdd yn effeithio, nid yn unig ein bywyd gwyllt, ond ein cymunedau hefyd.

Mae tirfeddiannwyr Dyfi yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ddefnyddio lliniariad llifogydd naturiol i helpu oedi a leihau effaith llifogydd ar ein pentrefi a threfi arfordirol ac wedi derbyn gwobr genedlaethol am eu hymdrechion.

Mae tymheredd cynyddol yn golygu y gall dyfroedd gynhesu i’r pwynt bod lefelau ocsigen yn gostwng neu bod algau’n ffurfio nes bygwth goroesiad tymor hir rhywiogaethau. Rydym yn cefnogi ymdrechion i gynyddu cysgod ar yr afon drwy blannu coed a darparu pyllau dyfnach fel bo llecynnau claear i gynnal bywyd gwyllt yn well yn ystod tywydd poeth yr haf.