Etifeddiaeth

Etifeddiaeth Afon Dyfi

Mae etifeddiaeth, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, yr afon Ddyfi wedi’i ddarlunio yng ngweithiau ysgrifennwyr a beirdd fel y cywyddwr canol oesol Dafydd ap Gwilym. .

Mae’n cymharu nerth yr afon i ysgwydd ceffyl ac yn erfyn cymorth yr afon i ddychwelyd at ei gariad Morfudd yn ‘Y Don ar Afon Dyfi’.

Mae’n synfyfyrio ar gyfoeth yr afon drwy’i disgrifio fel ‘cartref 300 rhwyd’. Yn y 1600au roedd cofnod am ei physgodfa o eogiaid a phenwaig, ac ym mhapurau’r teulu Thruston, bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae sôn am bysgodfa ym Mhennal. Yn Nhalgylch Dyfi gwelwyd cloddio am blwm, sinc, llechfaen, copr ar arian, ynghyd â chynhyrchu calch dros y canrifoedd.

Yna, ym Mhennal, pentref ar lan y Ddyfi, mae safle Cefn Caer neu Maglona, caer gynorthwyol i leng o filwyr Rhufeinig, sefydlwyd fe gredir gan y llywodraethwr Prydeinig, Gnaeus Julius Agricola i reoli llwyth yr Ordofigiaid wrthryfelodd yn 77-78 O.C. Roedd yn safle gwych a chyfleus i’r môr ac i Fae Ceredigion drwy aber y Ddyfi.

Bioamrywiaeth

Mae ein haelodau a’n sefydliadau cefnogol yn monitro’r afon yn aml. Mae’r glannau sy’n gyforiog o goed Gwern a Derw Cymreig yn cynnal bywyd gwyllt ond hefyd yn darparu lloches i rywiogaethau yn yr afon ei hun gyda ffynonellau o fwyd a chysgod.

Rhywiogaethau

Mae nifer o ardaloedd dynodedig o bwysigrwydd byd-eang ar draws ein tirwedd gan gynwys Ardal o Warchodaeth Arbennig, Biosffȇr UNESCO, Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur dan reolaeth RSPB.

Hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn effeithio, nid yn unig ein bywyd gwyllt, ond ein cymunedau hefyd. Mae tymheredd cynyddol yn golygu y gall dyfroedd gynhesu i’r pwynt bod lefelau ocsigen yn gostwng neu bod algau’n ffurfio nes bygwth goroesiad tymor hir rhywiogaethau.

Bydd yn ffrind

Pam na wnewch chi ymuno â ni ar ein taith? Mae’n hawdd bod yn Ffrind Dyfi drwy rodd i’n Cronfa i alluogi datblygu prosiectau allweddol i gynnal ein rhwydwaith afon anhygoel. Byddai rhodd rheolaidd neu un-tro yn helpu inni wireddu gweithredoedd arwyddocaol i amddiffyn ein hased unigryw. Gallw ychwanegu’ch enw i’n rhestr cyfrannwyr neu aros yn ddi-enw.