Ein Pobl

Ein Bwrdd

Mae bwrdd ein Hymddiriedolaeth yn cynnwys Cadeirydd ac Ysgrifennydd gyda nifer o aelodau tanysgrifiol cylchdröol yn gwasanaethu am dair blynedd.

Prys Morgan

Prys Morgan

Y Cadeirydd

Mae Prys Morgan yn dirfeddiannwr Afon Dyfi gyda gradd mewn Rheolaeth Cadwraeth Tir a chyda diddordeb brwd mewn ecoleg. Mae’n gyfarwyddwr Kepak, yn gyn-bennaeth Gweithredoedd a Chysylltiadau Diwydiant gyda Hybu Cig Cymru a bu’n gweithio cyn hynny gyda ADAS a Phrifysgol Aberystwyth.
James Brunton

James Brunton

Ysgrifennydd

Astudiodd James Brunton Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Exeter cyn dyfod yn gyfreithiwr gyda diddordeb arbennig mewn Cyfraith Tir ac Eiddo. Mae ar fyrddau y ‘New Dovey Fishery’ a nifer o fentrau cymunedol sy’n cynnig cefnogaeth a chyfleusterau i drigolion y Dalgylch.