Rhywiogaethau

Rhywogaethau Afon Dyfi

Mae nifer o ardaloedd dynodedig o bwysigrwydd byd-eang ar draws ein tirwedd gan gynwys Ardal o Warchodaeth Arbennig, Biosffȇr UNESCO, Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur dan reolaeth RSPB.

Mae gennym gynefinoedd unigryw o ffriddoedd uchel i lechweddau coediog i forfa heli ar yr aber.

Ynghyd ag Eog yr Iwerydd, mae lamprei, siwyn, planhigion arfordirol unigryw, crëyr bach copog a gweilch y pysgod, cramennog aber yr afon a phlanhigion all oddef halen (‘halophytes’) ymysg y miloedd o rywiogaethau gefnogir gan yr afon ar ei thaith o’r mynydd i’r môr.

Bioamrywiaeth

Mae ein haelodau a’n sefydliadau cefnogol yn monitro’r afon yn aml. Mae’r glannau sy’n gyforiog o goed Gwern a Derw Cymreig yn cynnal bywyd gwyllt ond hefyd yn darparu lloches i rywiogaethau yn yr afon ei hun gyda ffynonellau o fwyd a chysgod.

Hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn effeithio, nid yn unig ein bywyd gwyllt, ond ein cymunedau hefyd. Mae tymheredd cynyddol yn golygu y gall dyfroedd gynhesu i’r pwynt bod lefelau ocsigen yn gostwng neu bod algau’n ffurfio nes bygwth goroesiad tymor hir rhywiogaethau.

Bydd yn ffrind

Pam na wnewch chi ymuno â ni ar ein taith? Mae’n hawdd bod yn Ffrind Dyfi drwy rodd i’n Cronfa i alluogi datblygu prosiectau allweddol i gynnal ein rhwydwaith afon anhygoel. Byddai rhodd rheolaidd neu un-tro yn helpu inni wireddu gweithredoedd arwyddocaol i amddiffyn ein hased unigryw.