Bioamrywiaeth

Bioamrywiaeth Afon Dyfi

Mae amrediad yr ardaloedd gwarchodedig ar ein hafon yn adlewyrchu’r pwysigrwydd sydd iddi yn ecosystemau Dyffryn Dyfi gyda’r afon yn tarddu yn llyn bach Creiglyn Dyfi, 1,900 troedfedd (580m) uwchlaw lefel y môr, dan gysgod yr Aran Fawddwy ac yn llifo i Ddinas Mawddwy a Glantwymyn, yna i’r de-orllewin heibio Machynlleth i Fae Ceredigion.

Mae’n haelodau a’r cyrff sy’n ein cefnogi wedi bod yn gymorth drwy gymryd rhan mewn gwaith monitro ar yr afon sawl tro. Mae’r Bysgodfa yn asesu’r anifeiliaid di-asgwrn cefn yn rheolaidd ac mae’r tir-feddiannwyr hefyd yn cefnogi arolygon adar sy’n dangos bod ein hardal yr un mwyaf amrywiaethol o holl ardaloedd ym Mynyddoedd y Cambria.

Mae’r glannau sy’n gyforiog o goed Gwern a Derw Cymreig yn cynnal bywyd gwyllt ond hefyd yn darparu lloches i rywiogaethau yn yr afon ei hun gyda ffynonellau o fwyd a chysgod.