Amdanom Ni
Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth
Mae’r Afon Ddyfi hardd yn llifo cryn 30 milltir o’r bryniau uwchlaw Dinas Mawddwy i gymuned arfordirol Aberdyfi lle mae’n cwrdd â Bae Ceredigion, wedi’i chwyddo gan 300 milltir o nentydd a lled-afonydd.
Ein gweledigaeth, fel Ymddiriedolaeth Afonydd Dyfi, yw Dalgylch ffyniannus yn cynnal bioamrywiaeth toreithiog ac yn creu ecosystemau iach ynghyd â chymunedau lleol (thriving twice) economaidd lwyddiannus sy’n darparu, drwy iaith, diwylliant, gweithgareddau ac addysg, y cynaladwyedd a’r gobaith i’r cenedlaethau i ddod.
Mae gennym ffocws dros y degawdau nesaf ar godi arian i alluogi gweithredoedd cadwriaethol dŵr croyw i achub rhywiogaethau afon eiconig fel Eog yr Iwerydd, sydd â’i iechyd yn adlewyrchu ffynniant ein hafon. Cefnogwn hefyd weithredoedd i helpu rhywiogaethau dynodedig ein haber – Gwyddau Talcen Gwyn yr Ynys Las sy’n gaeafu gyda ni.
Mae trigolion ac ymwelwyr yn unfarn yn dweud wrthym eu bod yn teimlo’r tangnefedd ar hyd ein glannau coediog, dyfroedd tyner a bywyd gwyllt amrywiol.
