BLOG

Adfer Dyfi

MAE PARTNERIAETH Pennal Partnership, y grŵp cymunedol dan arweiniad ffermwyr, wedi llwyddo i ennill dau grant ar gyfer prosiect newydd yn nhalgylch Dyfi. Ariennir y prosiect gan Raglen Rhwydweithiau Natur a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

Nod Adfer Dyfi (2024-26) yw cryfhau gwytnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru dros y blynyddoedd nesaf, gan feithrin gallu i gryfhau a gwella darpariaeth natur yn y dyfodol, a chynnwys y gymuned yn hynny. Bydd ymdrechion Partneriaeth Pennal yn gwella cyflwr a chysylltedd rhwng safleoedd ar gyfer rhwydweithiau natur sy’n gynefinoedd hanfodol i’w diogelu er mwyn i rywogaethau ffynnu ac ehangu.

Bydd y prosiect yn helpu Dalgylch Dyfi i addasu i effeithiau newid hinsawdd gyda chamau gweithredu i helpu glanhau ac oeri’r afon a’i llednentydd gyda ffocws penodol ar Eog yr Iwerydd, Brithyll y Môr (sewin) a pheillwyr yn ogystal â rheoli pori ar forfa heli’r SoDdGA.

Dywed y Cadeirydd Rhys Parry: “Dangosodd ein prosiect arobryn blaenorol ein bod yn gallu gweithredu ar y cyd ar raddfa tirwedd tuag at 2050 a bydd grantiau Adfer Dyfi yn ein galluogi i ymestyn ein camau gweithredu ymhellach. Diolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig ein partneriaid gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru.”

Archifau Newyddion