BLOG

Haf prysur

Bu’n haf prysur ar y Ddyfi a’i lled-nentydd.

Bu staff warden afon y ‘New Dovey Fishery(1929) Association’ o gwmpas yn gwirio bod gan bysgotwyr drwyddedau ac y rhoi cyngor i ymwelwyr ynglyn â chadw’n saff ger yr afon.
Mae cyfnodau o wres llethol wedi peri gofid gyda thymheredd yr afon yn cyrraedd 18 gradd, yn agosáu at y pwynt lle nad oes digon o ocsigen yn y dŵr i’n pysgod nag unrhyw fywyd gwyllt arall. Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Dyfi yn gweithredu i wneud y dalgylch yn fwy hygyrch i newid hinsawdd, gan ennill cyllid i sicrhau mwy o gysgod, llai o erydiad pridd ac amaethyddol drwy lif dŵr a chyfyngu ar fynediad er budd glendid dŵr.

Gyda’n partneriaid rydym hefyd yn monitro Dŵr Cymru Welsh Water i geisio sicrhau eu bod yn gweithredu eu cynlluniau i uwchraddio safleoedd trin carthion a lleihau rhyddhad carthion heb eu trin.

Er hynny mae ffigyrau ryddhawyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Ngorffennaf 2025 yn dangos bod y cwmni dŵr yn gyfrifol am 155 o achosion llygru ar draws Cymru yn 2024 – cynnydd o 42% yn y 10 mlynedd diwethaf.

Mae Dŵr Cymru, yn ôl adroddiadau’r BBC, yn derbyn ‘nad yw eu perfformiad beth ddylai fod’ ac yn dweud eu bod yn prysuro buddsoddiad mewn ardaloedd allweddol i leihau achosion o lygredd.

Archifau Newyddion